William Gwynfor GoronwyDAVIESYn dawel fore Sul Ebrill 2 yn ysbyty Glangwili hunodd Goronwy, Heol Alan, Llandeilo, gynt o Tircelyn, Cwmdu. Priod ffyddlon Enid a thad annwyl Menna a Gareth. Tad yng nghyfraith parchus Si?n a thadcu cariadus Steffan a Sara. Brawd addfwyn Geraint a Beti. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Esgairnant, Talyllychau, Dydd Llun Ebrill 10 am 1:30 o'r gloch ac i ddilyn ym mynwent y plwyf, Talyllychau. Blodau'r teulu'n unig. Derbynnir rhoddion os dymunir tuag at "Ward CDU Ysbyty Glangwili" neu "Capel Esgairnant" trwy law D. Lloyd a'i Feibion, Glanrwyth, Pumsaint, SA19 8YU.
Keep me informed of updates
Add a tribute for William